Gan Sera Talea

 

Pa mor hir fyddwch chi’n cadw’ch dillad? Ydych chi’n am fod yn ffasiynol tra ar yr un pryd helpu’r blaned a’r bobl sy’n gwneud y dillad? Oes gennych chi ddillad nad ydych yn eu gwisgo mwyach? Peidiwch â’u taflu i ffwrdd.

Camsyniad yw credu eich bod, trwy brynu gan y cewri ffasiwn ar-lein, o leiaf yn cadw rhywun mewn swydd. Wyddoch chi fod plant mor ifanc â 6 oed wedi cael eu canfod yn gweithio mewn slafdy am hyd at 16 awr y dydd? Ac y gallai’r un maint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu un dilledyn, ddarparu dŵr yfed ar gyfer person am dros ddeng mlynedd ar hugain? Meddyliwch mewn difri calon am y goblygiadau, yn enwedig mewn gwledydd lle rhaid talu am ddŵr yfed.

Dwi’r un mor euog o brynu’r ffasiynau diweddaraf gan gwmnïau fel Shein, Amazon neu hyd yn oed fy archfarchnad leol. Rwy’n poeni sut fydd yn edrych, fydd o yn ffitio, fod ganddynt y maint cywir. Ond, y gwir yw, yr hyn dylwn i fod yn poeni amdano yw sut mae fy newisiadau’n dinistrio bywydau pobl ar draws y byd.

Pan gyrhaeddais Eco Hwb Aber, roeddwn wrth fy modd gyda’r trefniant a darganfod sut gallai’r cyfnewid dillad weithio. Ymddengys yn ymateb lleol pwyllog i’r materion sy’n ein hwynebu. Gall cyfnewid dillad gael ei weld fel rhywbeth hen-ffasiwn neu ddibwys, ond y gwir yw mai gweithred leol, ar lawr gwlad all gael effaith weladwy uniongyrchol ydyw.

Er hyn nid wyf yn honni mai hyn yw diwedd y gân ar weithredu amgylcheddol. Dim ond un agwedd ar we foesegol ehangach yw gweithredu amgylcheddol, ond gallai mynychu cyfnewid dillad fod yn gam pwysig yn eich siwrne i greu dyfodol gwell i fwy o bobl.

Beth am roi cynnig ar gyfnewid dillad? Ewch ati fel grŵp o ffrindiau neu dewch draw i un o’n digwyddiadau cyfnewid dillad ni a gynhelir ar y cyhydnos a’r heuldro yn Eco Hwb Aber, Yr Arced, Stryd y Baddon a dewch yn rhan o economi gylchol.

(Eco Hub Aber/ Eco Hwb Aber, Yr Arced, Stryd y Baddon,Aberystwyth, SY23 3AN)

 

Cyfeirnodau

Crewe, Louise, The Geographies of Fashion (London: Bloomsbury Publishing Plc, 2017)

Thomas, Dana, Fashionopolis: The Price of Fast Fashion and the Future of Clothes (London: Head of Zeus Ltd, 2019)