Teithio Llesol

Mae mwy i drafnidiaeth llesol na dim ond manteision iechyd- mae hefyd yn mynd i’r afael â llawer o heriau amgylcheddol megis llygredd aer, sŵn a dŵr, allyriadau nwyon tŷ gwydr ynghyd ag arbed ynni. Boed hyn yn gerdded i’r ysgol neu’n feicio i’r gwaith, sglefrfyrddio neu redeg. Gall teithio llesol gynnig ffordd gyfleus, hygyrch a fforddiadwy i symud mwy a gwerthfawrogi’r awyr iach a’r amgylchedd lleol.

Llogi E-Feic

Beth am roi cynnig ar ein e-feiciau? Mae’n gyfle delfrydol i brofi’r byd beic trydan. P’un a ydych am ymweld â llefydd na ellir eu cyrraedd gyda’r car, ehangu mwy ar eich gorwelion neu edmygu golygfeydd… i gyd heb fod yn draul ar y blaned, yna mae’r e-feic yn cynnig taith hollol wahanol i’r car. Efallai y gwnaiff hyn yn y pendraw eich annog i roi’r gorau i’r car a theithio o le i le ar e-feic.

Am brisiau ac argaeledd cysylltwch â ni. Fel arall, ymunwch fel aelod a mwynhau sesiynau am ddim.

Llwybrau awgrymedig

32 km / 20 milltir

Beth am roi cynnig ar E-feiciau hybrid o Eco Hwb Aber? Mae’n ffordd berffaith o fwynhau’r awyr agored, gyrru llai a gweld mwy. Mae digonedd o ddewis ar eich cyfer – p’run ai ydych chi yn dewis taith fer yn archwilio tref glan môr, hanesyddol, syfrdanol, Aberystwyth neu ddewis taith mwy heriol ar y ddau lwybr beicio cenedlaethol sy’n enwog am eu prydferthwch gwefreiddiol.

Mae’r e-feics yn hawdd i’w reidio, er bydd dal angen defnyddio’r pedalau! Cyfle i fwynhau mewn heddwch a distawrwydd heb golli gwynt na chwysu!

Mae modur e-feic Bosch yn rhoi hwb braf i’ch ymdrechion. Maent yn mynd hyd at 15mya ac yn gymorth cadarn ar y drignfeydd i gynyddu eich cyflymder cyfartalog. Mae’n rhoi’r teimlad fod gennych goesau bionig! Pan fydd eich pwysedd pedalu yn cynyddu i fynd fyny allt felly hefyd maint y pŵer mae’r modur yn ei allbynnu. Mwy o ymdrech, llai o gymorth pŵer a defnyddio llai o fatri. Daw’r batris wedi eu gwefru’n llawn. Mae’r ystod gweithredu yn dibynnu ar lawer o ffactorau megis lefel cymorth, sut y’ch chi’n newid gêr, proffil llwybrau, pen-wynt a thymheredd, ond yn gyffredinol, ystod cyfartalog ein pecynnau batri yw hyd at tua 50 milltir.

Mae’r rheolaethau yn fotymau bawd hawdd, i’r dde ar eich handlen(handlebars). Byddwch chi’n gallu cadw golwg ar bopeth, gan gynnwys cyflymder, pellter, a lefel batri. Mae’r dangosydd hawdd ei ddarllen yn gwneud eich taith yn hollol ddi-straen!

Mae gan y beic 5 lefel o gymorth pedal i’ch helpu, sy’n eich pweru hyd at 15mya – sydd, ynghlwm a’r ger Shimano 7 cyflymder– yn golygu y gallwch hedfan i fyny’r elltydd mwyaf serth, tra bod y brêcs disg tynnu cebl yn golygu y gallwch reidio yn ôl i lawr yn ddiogel ac yn saff!

Cewch lond gwlad o awyr iach, glan-môr wrth fwynhau eich taith o amgylch y dref! Gallwch edmygu adfeilion trawiadol y castell sydd yn dyddio o’r 13canrif, ymweld â Rheilffordd y Clogwyn a’r harbwr. Neu efallai bod yn well gennych deithio’n hamddenol ar hyd glan y môr ac ymlwybro hyd strydoedd y dref fechan, llawn siopau, bariau a chaffis difyr lle ceir dewis eang o fwyd. Yn ogystal, os ydych chi a’ch bryd a’r ddianc i dangnefedd cefn gwlad, mae dau o’r llwybrau beicio Rhwydwaith Cenedlaethol uchel iawn eu parch yn cychwyn o’n stepen drws yma yn Eco Hwb Aber.

Llwybr Ystwyth (llwybr 5), llwybr beicio hardd sy’n dilyn hen reilffordd y Great Western am y rhan fwyaf o’r ffordd; yn addas ar gyfer pobl sydd â lefel resymol o ffitrwydd. Mae’r llwybr 6.5m/10.5km hwn yn dilyn hynt yr Afon Ystwyth. Wrth i’r llwybr droelli drwy’r dyffryn a pheth o gefn gwlad gorau’r DU, ceir golygfeydd syfrdanol o’r arfordir ynghyd â choetiroedd brodorol, i gyd o fewn tirweddau sy’n newid yn ddramatig yn ôl y tymor. Arhoswch ennyd i fwynhau picnic ar un o feinciau’r coetir ar hyd y ffordd. Yn cymryd tua 2.5 awr.

Llwybr beicio Rheidol (llwybr 8) i Bontarfynach – llwybr llawn golygfeydd trawiadol at safle hanesyddol. Mae’r llwybr 15.2m yn cynnwys lonydd gwledig tawel a llwybrau beicio penodol. Mwynhewch olygfeydd gwych ar hyd dyffryn yr Afon Rheidol, gyda’i nodweddion amlwg fel Canolfan Gorsaf Bŵer Trydan-dŵr Cwm Rheidol a Thŷ’r Gloÿnnod Byw. Ar ddiwedd eich taith o tua 1.5 awr, byddwch yn disgyn lawr i dirwedd ryfeddol Cwm Rheidol, ble gallwch fwynhau’r Rhaeadrau Pontarfynach enwog, 300 troedfedd o uchder, a’r Tair Pont yng nghanol mynyddoedd Cambria. Mwynhewch wledd yng Ngwesty’r Hafod.

Lle Rydym Ni

Yr Arcêd,
5 Stryd y Baddon,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 2NN