Lleihau Carbon
Lleihau carbon yw cenhadaeth yr Eco Hwb, canfod a galluogi ffyrdd o fod yn rhan o’r newid i fynd â ni yn ddi-carbon erbyn 2050. Cynnig rhai mesurau ymarferol, offer a gwasanaethau.
Offer ar gael – Camera Delweddu Thermol
Mae Eco Hwb Aber wedi buddsoddi mewn 2 gamera delweddu thermol sy’n cysylltu â’ch ffôn symudol. Maent yn ddelfrydol ar gyfer nodi arwyddion o golli gwres ac ynni o gwmpas y cartref – fel insiwleiddio gwael, drafftiau, bylchau mewn waliau ceudod neu offer aneffeithlon – bydd y camera’n rhoi darlun gweledol o ble rydych chi’n colli ynni. Gall trwsio’r materion hyn yn gynnar helpu i ostwng eich biliau ynni mewn gwirionedd.
Y Camera Thermol FLIR ONE ar gyfer iOS – Yn eich galluogi i archwilio’ch byd mewn ffordd fwy manwl. Mae’n cysylltu â phorth mellt (lightning port) eich iphone ac ar ôl i chi lawrlwytho’r ap rhad ac am ddim mae’n hawdd rhannu’r delweddau a’r fideos thermol ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n caniatáu ichi weld a mesur gwahaniaethau tymheredd yn gywir ac o bellter diogel. Perffaith ar gyfer archwiliadau gwresogi sylfaenol a chanfod tamprwydd. Mae technoleg MSX unigryw yn cyfuno sbectrwm thermol a gweladwy am fwy o fanylion a datrysiad gwell oherwydd bod dau gamera yn well nag un.
Mae gennym hefyd y PerfectPrime IR202, (IR) Camera Delweddwr Thermol Is-goch 4800 Picsel, -40 ~ 752 ° F, rhyngwyneb USB Math C 15Hz ar gyfer Cysylltiad Android ar gyfer canfod ystod tymheredd (-40 ° C i 400 ° C) sydd hefyd ag Ap Symudol i’w Lawrlwytho am ddim ar gyfer Android OS. Mae gennym hefyd gysylltydd micro usb.
Mae’r delweddwyr thermol hyn yn ddelfrydol ar gyfer canfod ynni gwres. Maent yn gweithio drwy fesur yr ymbelydredd isgoch sy’n deillio o wrthrychau (eu llofnod gwres). Mae’r camera arferol yn ffurfio delwedd gan ddefnyddio golau gweladwy (ystod 400-700 nanometr (nm), tra bod is-goch yn defnyddio’r band anweledig (1,000nm) sy’n gorwedd rhwng amleddau gweladwy a microdon ar y sbectrwm electromagnetig. Pan mae’r camera thermol yn cael ei bwyntio at wrthrych neu ardal, mae’r synhwyrydd yn caniatáu i’r defnyddiwr weld y sbectrwm is-goch fyddai yn anweledig fel arall. Mae arae’r synhwyrydd wedi’i hadeiladu fel grid o bicseli. Mae pob un o’r rhain yn adweithio i’r tonfeddi isgoch sy’n ei daro trwy eu troi’n signal electronig yna’n cael ei drosi, gan ddefnyddio algorithmau i fap lliw o werthoedd tymheredd.
Bydd y gwrthrychau neu’r rhanbarthau cynhesach yn ymddangos yn goch, oren a melyn, tra bydd y rhannau oer yn borffor a glas. Mae gwyrdd yn dangos ardaloedd sydd tua thymheredd yr ystafell. Oherwydd eu bod yn mesur ymbelydredd is-goch, ac nid golau gweladwy, mae camerâu thermol hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer adnabod ffynonellau gwres mewn amgylchedd tywyll iawn neu sydd fel arall wedi’i guddio.
Wrth i chi bwyntio’r camera at wal neu wrthrych solet bydd yn cofrestru’r gwres sy’n cael ei ymbelydru tuag allan o’r arwyneb hwnnw. Maen nhw’n tueddu i weithio’n well yn y nos. Does gan hyn ddim i’w wneud ag yw cyflwr yr amgylchedd o’i gwmpas yn olau neu’n dywyll ond oherwydd bod gwrthrychau’n dymheredd is yn y nos felly mae’r synwyryddion delweddu thermol yn gallu arddangos ardaloedd cynnes ar wrthgyferbyniad uwch. Hyd yn oed ar ddyddiau cymharol oer, bydd ynni gwres o’r haul yn cael ei amsugno’n raddol gan adeiladau. Ceir cyferbyniad mwy craff hyd yn oed ychydig oriau wedi golau dydd llawn.
Dyw’r synwyryddion isgoch ddim yn gallu ‘gweld’ drwy unrhyw ddyfnder sylweddol o ddŵr, oherwydd dydy’r tonnau y mae’n canfod ddim yn pasio trwy ddŵr yn hawdd. Yn yr un modd ni fyddwch yn cael darlleniad cywir trwy wydr er y bydd rhai mathau megis ffenestr flaen car yn rhoi darlleniadau mwy cywir na gwydr cartref. Mae’n tueddu i weithio’n debycach i ddrych ar gyfer tonfeddi isgoch.
Mae gennym hefyd Gamera Delweddu Thermol sydd ar gael i’w fenthyg i’ch helpu i ganfod eich colledion gwres. Cysylltwch â ni.