Cyfiawnder Cymdeithasol

Chwarae teg a chyfle i bawb sydd wrth wraidd Eco Hwb Aber. Gwyddom fod llawer o waith i wneud ac rydym yn estyn allan i fod yn gynhwysol i bawb sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Aberystwyth. Byddwn yn gweithio gyda grwpiau eraill i fynd i’r afael yn ymarferol ag anghydraddoldebau a sicrhau bod y rhain yn cael eu gwella yn hytrach na’u gwneud yn waeth gan ein gweithgareddau. Rydym yn ymwybodol ein bod yn byw mewn byd annheg ar hyn o bryd ac rydym yn cefnogi ac yn cymryd camau cadarnhaol ar gyfer dosbarthu adnoddau, cyfleoedd, a breintiau yn deg ac yn gyflawn o fewn cymdeithas.

 

Argyfwng Costau Byw

Gall helpu gyda chostau byw a chefnogi’r hinsawdd a natur fynd law yn llaw, ond nid yw hyn yn wir pob amser. Rydym yn gweithio gyda CREDU, Gofalwyr Ceredigion, Oxfam, CAB a NYTH/NEST i gefnogi pobl ar incwm isel. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cyfnewid dillad, cyfnewidiadau gwisgoedd ysgol a help a chyngor ar gyfer arbedion ynni a chyfeirio tuag at gymorth ariannol.

Drwy weithio gyda Chyngor Ceredigion a CAVO rydym yn ofod cynnes yn y rhwydwaith ledled Cymru i helpu pobl i arbed ar gostau gwresogi yn y cyfnodau oer.

Yr Iaith Gymraeg

Mae Eco Hwb Aber yn darparu gwybodaeth a digwyddiadau dwy-ieithog. Roeddem yn falch o gynnwys y gerdd ‘Cantre’r Gwaelod’ gan y bardd lleol, John James Williams, yn ein digwyddiad “Rising Sea Levels” a’n ffenestr ar gyfer parêd Gŵyl Ddewi. Rydym yn falch o gael bod yn rhan o’n, a chael hybu, ein diwylliant Cymraeg.

Gwrth-drais

Cynhaliwyd sesiynau galw heibio a gweithdai ar gyfer gwrth-drais pan groesawodd Aberystwyth gerflun yr Angel Gyllyll. Cafodd y cerflun, a wnaed o dros 100,000 o lafnau a atafaelwyd, ei greu’n benodol i dynnu sylw at effeithiau negyddol ymddygiad treisgar. Mae’r Angel Gyllyll yn addysgu plant, pobl ifanc ac oedolion am yr effeithiau niweidiol y mae ymddygiad treisgar yn eu cael ar gymunedau ledled ein cenedl. Mae’n symbol o alwad am newid tra’n gweithredu fel Cofeb Genedlaethol i ddioddefwyr troseddau cyllyll a’u hanwyliaid.

Ein Cenhadaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Eco Hwb Aber yn ofod cynhwysol i bawb. Gyda ni, byddwch yn creu amgylchedd lle mae gwahaniaethau unigol a chyfraniadau pawb yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi. Mae gennym le gwastad gyda mynediad da i ddefnyddwyr cadair olwyn a’r llai abl. Mae ein hamrywiaeth yn galluogi cyfranogiad llawer o bobl – o bob oed a rhyw. Hyd yn hyn rydym yn cydnabod cyfraniadau pwysig; LHDT+ gyda’n rheolwyr a’n marchnata, niwro-amrywiaeth yn ein digwyddiadau celf hinsawdd, pobl leiafrifol ethnig sy’n ymwneud â’n cyfnewid dillad a’n casgliadau coed am ddim, digwyddiadau wedi’u hanelu at bobl ar incwm isel megis cymorth i ofalwyr a mannau cynnes, siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf gyda’n llenyddiaeth ddwy-ieithog a cherddi Cymraeg. Rydym yn bodoli i hyrwyddo urddas a pharch at bawb.