Byd Natur

Mae Eco Hwb Aber yn creu cysylltiadau â grwpiau amgylcheddol lleol i godi ymwybyddiaeth ac amlygu pryderon am fyd natur sy’n gofyn am wirfoddolwyr ‘galw i weithredu’. Neu i fwynhau ymlacio a phrofi manteision iechyd drwy ymdrochi yn harddwch byd natur yn ardal Aberystwyth a’r cyffiniau.

Treegeneration

Rydym yn falch o gael gweithio gyda Treegeneration sy’n cefnogi ein prosiectau natur. Mae gan Rob ddesg boeth yn Eco Hub Aber ddau ddiwrnod yr wythnos. Mae’n amgylcheddwr “semi-techie” gyda phrofiad mewn permaddiwylliant trefol, datblygiad economaidd lleol, a datblygu gwe ffynhonnell agored. Ei brif ddiddordeb ar hyn o bryd yw datblygu Treegeneration.uk, sy’n blatfform ariannu torfol arloesol, wedi’i gynllunio i greu incwm ar gyfer prosiectau bywyd gwyllt tra ar yr un pryd yn cefnogi mân-werthwyr annibynnol lleol.

treegeneration.uk

GWENNOL DDU 

Mae Eco Hwb Aber wedi creu cysylltiadau â Phrosiect Gwennol Ddu Biosffer Dyfi (Eco Dyfi) a daeth Elfyn Pugh i’r eco-hwb gyda’i stondin i egluro sut y gallwn helpu’r gwenoliaid du i ffynnu. Aderyn a oedd i’w weld yn aml yn harbwr Aberystwyth ar un amser.

Yn anffodus, mae niferoedd y wennol ddu wedi gostwng yn aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gostyngiad o 58% ers 1995. Yn 2021, ychwanegwyd at Restr Goch y DU, sy’n golygu eu bod bellach ar y lefel uchaf o bryder cadwraeth. Gallem weld diflaniad y wennol ddu o Brydain yn ystod ein hoes; a bydda hynny’n dorcalonnus.

Mae newid hinsawdd yn effeithio ar y wennol ddu, ond hefyd, mae yna ddiffyg safleoedd nythu addas, gydag adeiladau newydd yn gadael dim lle iddynt adeiladu eu nythod. Mae bocsys neu frics gwennol ddu, sydd wedi’u dylunio i roi lle iddynt ddodwy eu wyau, yn ffordd o roi help llaw iddynt.

 Os hoffech chi osod blwch gwennol ddu ar eich eiddo, neu os hoffech gyfrannu neu wirfoddoli, cysylltwch â ni  er mwyn denu’r aderyn eiconig hwn yn ôl yn Aberystwyth..