Eco Hwb Aber
Ar Gyfer Pob Un Ohonom
Cymrwch gam cadarnhaol heddiw. Lle i rannu syniadau, i gymell a chefnogi gweithgareddau eco lleol.
Cydweithio
Benthyg Aber
Llogi E-feic
Aelodaeth
Gweithredoedd
Ar Gyfer Pob Un Ohonom
Cymrwch gam cadarnhaol heddiw. Lle i rannu syniadau, i gymell a chefnogi gweithgareddau eco lleol.
Gwyliwch!
Cyfranwyr
Gweithredoedd Eco
Dyddiau
Mae’r Grym i Effeithio Ar Ein Dyfodol Yn Ein Dwylo Ni, Ac Awn i’r Afael Ag Ef!
Gall gweithredu heddiw sicrhau ein yfory
Mae Eco Hwb Aber yn darparu gofod byw gyda chenadwri ‘ar lawr gwlad’ i gynnig atebion ymarferol yn ein bywyd bob dydd. Y bwriad yw bod yn gymorth i ni bontio tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Newyddion
Arddangosfa Ton Fawr | Big Wave Exhibition
Mae'r arddangosfa fach ond pwerus hon yn Eco Hub Aberystwyth yn arddangos gwaith myfyrwyr Coleg Ceredigion fel rhan o Grŵp Celf Ton Fawr / Big Wave Art Collective. Trwy decstilau, gosodiad a chyfryngau cymysg, mae'r arddangosfa yn archwilio themâu heddwch,...
Gweithredu dros y Genhedlaeth Nesaf
Camau i’w Cymryd
Trwy ddewis cam cadarnhaol heddiw cawn obeithio am y gorau heb fod yn hunan-fodlon. Byddwch yn “Asiant dros Newid”
Teithio Llesol
Rhowch gynnig ar ein e-feiciau, sydd ar gael i’w llogi o Hwb Eco Aber
Celf Hinsawdd
Cymerwch ran i ryddhau mynegiant artistic mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd
Cyfiawnder Cymdeithasol
Gall helpu gyda chostau byw a chefnogi hinsawdd fynd law yn llaw
Economi Gylchol
Byddwch yn rhan o’r chwyldro lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu yn Hwb Eco Aber
Byd Natur
Ffurfiwch gysylltiadau â grwpiau amgylcheddol lleol a mwynhewch natur
Lleihau Carbon
Rhowch gynnig ar ein camerâu delweddu thermol a gweld lle mae eich gwres yn diflannu
Digwyddiadau
📅 Dyddiadau i Ddod ar gyfer 2026
- Dydd Sadwrn 16eg Mai
- Dydd Sadwrn 13eg Mehefin
- Dydd Sadwrn 29ain Awst
- Dydd Sadwrn 17eg Hydref
- Dydd Sadwrn 12fed Rhagfyr
🌿Llyfr y Mis Hwn
Gweld y Calendr Llawn
Mae EcoHwb Aber yn canolbwyntio ar wahanol themâu amgylcheddol lleol y gallwn ni i gyd gymryd rhan ynddyn nhw. Yn gweithio gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys:
- Coed Cadw a Llais y Goedwig i ddosbarthu coed am ddim i bobl leol,
- Sustrans i hyrwyddo e-feiciau,
- CAB a NYTH ar gyfer cyngor 1i1 ar effeithlonrwydd ynni a phympiau gwres,
- CREDU, Gofalwyr Ceredigion Carers ac Oxfam ar digwyddiadau cyfnewid dillad er mwyn hyrwyddo’r economi gylchol a chefnogi gofalwyr trwy werthu gwisgoedd ysgol ail-law mewn digwyddiad ‘pop up’.
- Cynnal y Cardi a CAVO i ddarparu cydlyniant cymunedol ar ôl Cofid drwy weithgareddau a man cyfarfod
- Treegeneration sy’n datblygu cynllun talebau cymunedol lleol
- Trafnidiaeth Cymru a Cambridge Solar ym Machynlleth ,ynghyd a sefydliadau amgylcheddol lleol eraill sy’n darparu desgiau poeth a lle i rannu syniadau.
- Cyngor Ceredigion i ddarparu gweithdai eco i bobl ifanc
Barn Ein Cwsmeriaid
★★★★★
“Mae Eco Hwb Aber yn barod i helpu, cefnogi, ac wastad yn barod i wrando. Mae’n amlwg eu bod nhw’n angerddol iawn am wella Aberystwyth i’r gymuned.”
★★★★★
“Mae’r lleoliad yng nghanol Aberystwyth yn gyfleus iawn i pobl alw heibio yn ystod eu dyddiau prysur; i gael amser i ofalu am eu hunain, dysgu am gynaliadwyedd yn lleol, gwneud cysylltiadau cymunedol a gweithredu ar newid hinsawdd.”