gan Kate Rolt.
Mae’n hawdd drysu’r dyddiau yma gyda’r holl newyddion am filiau ynni cynyddol. Ond wyddoch chi – ar wahân i brosiectau costus fel gosod gwydr dwbl, insiwleiddio trylwyr ac ailwampio’r system wresogi aneffeithlon, fod llawer o bethau y gellir eu gwneud yn rhad ac yn gyflym i gadw’ch tŷ yn gynnes a’ch biliau ynni i lawr? Felly, sut mae dechrau arni yn y tŷ heb iddo fynd yn drech na chi? I ddechrau, ewch o gwmpas pob ystafell er mwyn adnabod i ble mae’ch gwres yn mynd. Darllenwch ein taflen “Atal gwres rhag gollwng” yn Eco Hwb Aber, sydd yn cynnig awgrymiadau ar sut i helpu i gadw’ch cartref yn glyd.
ATAL DRAFFTIAU
Gwyliwch am y drafftiau bach slei ‘na. Mae llawer o ddrafftiau’n chwibanu drwy’r blwch llythyrau ac mae’n werth rhoi rhwystr ychwanegol yno ar ffurf “brwsh.” Gellir atal drafftiau’r tyllau clo gyda gorchuddion cylchol syml sy’n cau drostynt. Mae’n anhygoel faint o wahaniaeth mae cau hyd yn oed y lleiaf o dyllau yn gallu ei wneud. Gall llenni trwchus dros ddrysau fod yn rhwystr ychwanegol i’r oerfel.
Atal drafftia DIY – “ci selsig” – byddwch yn greadigol! Gellir mynd ati i wneud teclyn atal gwres rhag dianc o dan ddrysau trwy dorri fyny hen deits a’u stwffio hefo hen sanau neu hen ddillad. Gallent fod mor ffansi â dymunwch!
Insiwleiddio’r waliau. P’un a oes gennych waliau ceudod neu waliau solet, gellir inswleiddio’r ddau fath i helpu i sicrhau bod gwres yn cael ei gadw -yn enwedig mewn alcofau ar waliau allanol. Gellir canfod hyn drwy ddefnyddio ein camera delweddu thermol. Efallai y byddwch yn colli tua 8cm ond gallai fod yn werth chweil. Hoeliwch ffrâm i’r wal, atodi insiwleiddio rhyngddo, yna’i orchuddio â phlastr fwrdd. Dyna ni – wal gynnes newydd 😊
YSTAFELL FYW/LOLFA
Y lle rydyn ni’n aml yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser. Bydd cadw’r gwres i mewn yn ei gadw’n glyd.
FFENESTRI -LLENNI. Cadwch eich tŷ rhag colli gwres trwy’r ffenestri. Mae llenni gyda leinin thermol neu gnu yn opsiwn cymharol rad. Gadewch i wres yr haul ei chynhesu am ddim trwy’r dydd yna cau’r llenni cyn gynted ag y bydd hi’n nosi. Mae ‘na ffilm arbennig y gallwch chi ei rhoi ar draws ffenestri [ffenestri sengl] yn lle gwydr dwbl drud. Mae’r ffilm yn cael ei roi ynghlwm wrth ffrâm y ffenestr gan ddefnyddio tâp dwyochrog ac yna’i osod yn ei le gan ddefnyddio sychwr gwallt.
Gall stribedi sbwng (foam) hunanadlynol helpu i selio unrhyw fylchau ar ymyl ffenestri. Mae stribedi metel neu blastig gyda brwsys neu sychyddion ynghlwm yn ddrutach ond byddant yn para’n hirach.
RHEIDDIADURON
Gall gosod silff uwchben y rheiddiadur, yn enwedig os oes gennych nenfydau uchel, hefyd helpu i gyfeirio’r cynhesrwydd. Gallwch osod silff uwch ei ben i atal yr aer poeth rhag codi’n uniongyrchol uwchben. Mae hyn yn arbennig o wir os yw’r rheiddiadur o dan ffenest gyda llenni, lle byddai aer cynnes yn cael ei ddal rhwng y ffenest a’r llenni.
Defnyddio ffoil tun. Un ffordd o atal colli gwres diangen o reiddiaduron, yn enwedig y rhai sydd ynghlwm â waliau allanol. “Gwaedwch” eich rheiddiaduron i waredu’r aer sydd wedi’i ddal a sy’n eu hatal rhag gweithio mor effeithlon ag y dylen nhw. Diffoddwch y gwres mewn ystafelloedd gwag trwy ddefnyddio’r falfiau ar y rheiddiaduron. Ceisiwch osgoi gosod darnau mawr o ddodrefn o’u blaenau.
SIMNEIAU Os nad ydych chi’n eu defnyddio, yna gall balŵn simdde sy’n costio £23 atal y gwres rhag diflannu i fyny’r simdde. Wedi’i lenwi gydag aer bydd yn atal yn llwyr unrhyw aer oer tra hefyd yn atal gwres rhag dianc. Gellir hefyd ddefnyddio hen glustog os ydy hi’n dynn arnoch!
STANDBY Diffoddwch neu tynnwch blygiau unrhyw offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Efallai y byddai ond yn costio ychydig o geiniogau i adael teledu ar ‘stand-by’ am wyth awr, ond buan iawn mae’r gost yn cynyddu dros amser os oes llawer o ddyfeisiau. Gall rhai consolau gemau fod yn arbennig am lyncu pŵer pan ar ‘stand-by’.
CEGINAU
Y gegin yw’r lle sy’n defnyddio ynni fwyaf yn rheolaidd, mae pob math o bethau y gallwch eu gwneud i gyfyngu ar faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio.
Symud eich oergell. Cadwch hi draw o ffynonellau gwres, fel popty/ffwrn, a cheisio ei chadw allan o olau haul uniongyrchol. Symudwch hi ymlaen fel nad yw’n pwyso yn erbyn y wal, gan fod hyn yn caniatáu i aer gylchredeg yn haws. Mae glanhau tu ôl iddi hefyd yn helpu. Yn y cyfamser, mae oergell lawn yn rhatach i’w rhedeg nag un gwag. Atgyweiriwch sêl drws yr oergell i sicrhau nad yw aer cynnes yn mynd i mewn i’r oergell. Os ydyw, bydd angen i’r oergell weithio’n galetach a defnyddio mwy o drydan i gadw’r tu mewn yn oer.
Yn gyffredinol, y microdon yw’r ffordd fwyaf effeithlon o gynhesu a choginio bwyd – mae’n gyflymach oherwydd ei fod yn cyrraedd tymheredd uwch, ac mae ei faint llai (yn hytrach na’r ffwrn/popty) yn golygu bod ei wres yn canolbwyntio’n fwy uniongyrchol ar y bwyd.
- Mae coginwr araf (slow-cooker) hefyd yn offer coginio ynni-effeithlon, yn ogystal â bod yn ddelfrydol i’r rhai sy’n hoffi paratoi eu bwyd tra’u bod allan neu’n bwrw ymlaen â phethau eraill. Nid ydynt yn defnyddio llawer mwy o ynni na bwlb golau traddodiadol, gan eu gwneud yn ychwanegiad gwych, ynni-effeithlon i unrhyw gegin.
- Cadwch ddrws y ffwrn ar gau tra rydych chi’n coginio. Bob tro rydych chi’n agor y drws, mae’r ffwrn yn colli hyd at 25 gradd o wres.
- Defnyddiwch lestri gwydr neu geramig yn lle llestri a hambyrddau metel yn y ffwrn. Mae deunyddiau gwydr a cherameg yn cadw gwres yn well na metel, gan eu gwneud y mwyaf effeithlon i’w defnyddio yn y ffwrn.
- Gall pricio tatws pobi a darnau mawr o gig gyda sgiwer dur gwrthstaen helpu i gyflymu eu hamser coginio.
- Os oes gennych hob trydan, defnyddiwch sosbenni â gwaelod gwastad – po fwyaf o gyswllt sydd rhwng y sosban a’r gwres, y mwyaf cyfartal bydd y gwres yn lledaenu trwyddo. Meddyliwch am ddeunydd eich sosban – mae sosbenni copr yn cynhesu’n gyflymach na dur gwrthstaen tra bod sosbenni haearn bwrw yn cadw gwres yn fwy effeithlon.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n glanhau’r cylchoedd gwresogi (heating rings) yn rheolaidd – bydd unrhyw fwyd sy’n glynu wrth y cylch yn amsugno gwres, gan ei wneud yn llai effeithlon.
- Wrth olchi llestri gyda llaw, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio powlen golchi llestri yn hytrach na gwastraffu dŵr wrth iddo redeg.
- Lle bo’n bosib, defnyddiwch gylch golchi dŵr oer neu gylch 30°C.
- Golchwch ddillad ar y cylch golchi ymarferol byrraf.
- Os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad cadwch mewn ystafell gynnes. Bydd yn cymryd mwy o amser i gynhesu os caiff ei gadw mewn sied allanol.
YSTAFELLOEDD GWELY
Gorchuddiwch lawr pren moel.. Mae lloriau’n cyfrif am gymaint â 10% o golli gwres os nad ydyn nhw wedi’u hinswleiddio, yn ôl y Sefydliad Ynni Cenedlaethol (NEF). Mae’n rhaid i’r rhai sydd â lloriau pren ddelio â cholli gwres. Gall matiau a blancedi helpu i liniaru hyn- yn ogystal â chadw’ch traed yn gynnes! Os oes craciau neu fylchau yn y lloriau mae’n syniad da i’w llenwi gyda deunydd llenwi. Gall lloriau a sgyrtin grebachu, ehangu neu symud ychydig gyda defnydd bob dydd, felly gallech ddefnyddio llenwad silicon sy’n gallu goddef symudiad.
YSTAFELL YMOLCHI
Eich prif bryder yn yr ystafell ymolchi ddylai gwylio faint o ddŵr a ddefnyddir – os yw’r dŵr boeth, byddwch chi’n defnyddio ynni yn ei wresogi.
– Bydd pennau cawodydd sy’n arbed dwr yn lleihau faint o ddŵr poeth a ddefnyddir.
– Diffoddwch y tap pan fyddwch chi’n brwsio’ch dannedd neu’n golchi’ch wyneb – gall wastraffu mwy na chwe litr o ddŵr y funud tra’i fod yn rhedeg.
– Trwsiwch unrhyw ollyngiadau a diferion sydd â’r potensial i wastraffu llawer o ddŵr dros gyfnod estynedig.
– Ceisiwch droi pwysedd eich cawod i lawr ychydig. Gall cawod bŵer pwysedd uchel ddefnyddio mwy o ddŵr na bath.
GOLEUADAU
Defnyddiwch fylbiau golau sy’n arbed ynni fel LEDs neu “compact fluorescents” yn hytrach na’r mathau gwynias gyffredin. Mae LEDs yn enwedig, yn defnyddio chwarter egni gwynias a gall bara hyd at 25 gwaith yn hirach. Cofiwch lanhau goleuadau yn rheolaidd. Os yw llwch yn pylu disgleirdeb y bwlb, gallai hyn arwain atoch i ddefnyddio lampau neu fathau eraill o oleuadau i oleuo’r ystafell ymhellach, gan ddefnyddio hyd yn oed fwy o ynni.
-Diffoddwch y goleuadau wrth adael ystafell – mae hon yn ffynhonnell sylweddol o wastraffu ynni a gallai arbed £20 y flwyddyn i chi.
-Trefnwch eich ystafell i adael golau naturiol lifo mewn trwy’r ffenestri, a defnyddiwch ddrychau i adlewyrchu’r golau hwnnw i helpu i gadw ystafelloedd yn olau.
Glanhewch ffenestri budr – y tu mewn a’r tu allan – gall llwch a baw rwystro hyd at 10% o olau’r haul naturiol, felly sgwriwch hwy’n iawn!
YR ATIG
– Insiwleiddio’r tŷ cyfan. Insiwleiddio DIY i’r atig. Mae rholiau o insiwleiddio sbwng (foam) yn rhad. Dylai tair rhôl o sbwng dwfn 8in fod yn ddigon i roi haen amddiffynnol bwysig i’r rhan fwyaf o atigau. Mae gwlân mwynol (fel Rockwool neu Rocksil), ffibr gwydr a chynhyrchion papur wedi’u hailgylchu i gyd yn gweithio’n dda, yn ôl yr NEF. COFIWCH- gwisgo masgiau wyneb, gogls a dillad amddiffynnol os ydych chi’n gwneud y gwaith eich hun. Mae’r NEF hefyd yn rhybuddio i adael digon o fylchau o gwmpas y bondo er mwyn osgoi cyddwyso.
– Drws trap (drws yr atig) Gellir ei insiwleiddio gyda’r un stribedi hunanadlynol ag ar gyfer ffenestri a drysau. Gwiriwch nad oes unrhyw un o’ch teils neu lechi to yn rhydd nac ar goll. Os ydynt yn ddiffygiol gall dŵr ddod trwodd i’r atig a chyn gynted ag y bydd yr insiwleiddio yn gwlychu bydd yn colli ei effeithlonrwydd,”
GWRESOGI
– Insiwleiddiwch eich pibellau dŵr poeth. Mae pibellau dŵr heb eu hinswleiddio yn atal dŵr poeth rhag cynhesu yn gyflym tra bo’r dŵr yn rhedeg. Bydd inswleiddio’r pibellau yn helpu i atal gwastraff dŵr wrth i chi aros i’r dŵr gynhesu.
-Gall troi eich thermostat i lawr dim ond un radd yn unig arbed cymaint â £60 y flwyddyn i chi, ac mae’n debyg na fyddwch yn teimlo’r gwahaniaeth.
– Prynwch siaced insiwleiddio boeler newydd gyda thrwch a argymhellir o 75mm i helpu i gadw’ch dŵr yn boethach yn hirach a lleihau eich biliau ynni. Mae un newydd yn hawdd i’w ffitio – bydd y deunyddiau’n costio tua £25 yn unig a gallai arbed dros £100-£150 y flwyddyn.
YR ARDD
– Dewiswch beiriant torri gwair trydan. Mae peiriannau torri gwair trydan yn llawer llai o drafferth i’w defnyddio, ac yn amlwg yn fwy effeithlon o ran ynni hefyd na rhai sy’n cael eu pweru gan betrol. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw pwynt gwefru.
– Gwiriwch eich cwteri! Mae gwres yn cael ei golli’n gyflymach trwy wal wlyb nag un sych. Ar ddiwrnod glawog sefwch y tu allan i’ch cartref a gwirio bod dŵr yn llifo’n iawn trwy’r cwteri a phibellau a dim yn rhedeg i lawr y waliau. Cliriwch eich cwteri o ddail a rhwystrau.