Pwy feddyliai byddem ni, o fewn blwyddyn, wedi gwneud cymaint o gynnydd o syniad dechreuol i gannoedd o weithredoedd lleol sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur?

Mae Eco Hwb Aber yn flwydd oed! Symudodd y sefydlwyr Kate a Cath o Aberystwyth mewn ar 1af Chwefror 2022. Roedd hi’n llaith, yn wlyb ac yn oer ond roedd ganddynt freuddwyd o sefydlu gofod cyfeillgar, cynnes; lle i bawb ddod at ei gilydd a gweithio i leihau carbon a thyfu natur. Roedd angen gwaith ar y siop Arcêd hardd gyda’i mynediad mosaig clasurol a gwydr lliw siâp calon. Y siop Arcêd Art Deco hardd gyda mynediad mosaig clasurol…..

Gan weithio gyda saer coed lleol, cynlluniodd y tîm i wneud y mwyaf o’r lle i fod yn aml-swyddogaethol gyda lle i ddesgiau, cownter er mwyn ei defnyddio fel siop a gofod ar gyfer digwyddiadau bychain a sgyrsiau. Dewiswyd lloriau morwellt, a wnaed ym Mryste, i barhau a’r syniad o ddod â natur i’r gofod. Roedd cynnwys planhigion yn ben ar y cwbl.

Dywed y cyd-sylfaenydd Kate “Cawsom flwyddyn gyntaf wych! Mae wedi bod yn waith caled iawn a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y daith.” Roedd Sustrans yn un o’n cydweithwyr cyntaf a dywed Sioned, sy’n rhedeg y benthyciad e-feics “Mae Eco Hwb Aber bob amser yn gymwynasgar, yn gefnogol, ac yn ymwybodol. Mae’n amlwg eu bod nhw’n angerddol iawn am wella Aberystwyth i’r gymuned.”

Maent yn annog pawb i gymryd rhan a chofiwch “Gall gweithredu heddiw sicrhau ein yfory.”