Fy Nghoeden Ein Coedwig

Mae Eco Hwb Aber yn un o’r 56 canolfan wedi’u lleoli ledled Cymru lle gall pobl gasglu eu coeden am ddim, fel rhan o’r fenter Fy Nghoeden, Ein Coedwig, prosiect uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru a Choed Cadw. Mae 295,000 o goed ar gael ac mae gan bob cartref yr hawl i goeden.

Mae’r holl goed yn rhywogaethau brodorol, llydanddail a fydd yn tyfu’n goed bach/canolig eu maint sy’n addas ar gyfer gerddi a mannau llai, a bydd cyfarwyddiadau ar sut i’w plannu wedi eu cynnwys hefyd. Wrth iddyn nhw aeddfedu fe fyddan nhw’n amsugno carbon, yn brwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi bywyd gwyllt.

Byddwn yn cynghori aelodau’r cyhoedd pa rai o’r rhywogaethau sydd ar gael drwy’r cynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu gofod a sut i ofalu am eu coeden.

Bydd Eco Hwb Aber yn cynnal cam nesaf y rhodd o goed am ddim o ddydd Iau 23 Chwefror tan ddydd Gwener 31 Mawrth, bob dydd Iau a dydd Gwener 3-6 a dydd Sadwrn 2-4 (ar gau w/g 25 Mawrth). Bydd dewis o naw rhywogaeth wahanol o goed brodorol a llydanddail. O’u plith: Coed Cyll; Coed Criafol; Drain Gwynion; Bedw Arian; Coed Afalau Surion; Coed Derw Digoes; Cwyros; Coed Masarn Bach a Choed Ysgawen Bydd ein gwirfoddolwyr yn eich helpu i ddewis y goeden gywir ar gyfer eich gofod a’ch sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Choed Cadw i gyflawni prosiect Fy Nghoeden, Ein Coedwig. Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters:

“Mae coed yn achubiaeth i ni a’r holl fywyd rhyfeddol maen nhw’n ei gefnogi. Ble fyddai ein hadar, ein trychfilod a’n hanifeiliaid hebddyn nhw? Ble fydden ni hebddyn nhw? Drwy dyfu coeden hyfryd yn eich gardd gefn, gallwch ddechrau ar eich cyfraniad a helpu i dyfu Cymru iach a hapus er mwyn i ni a chenedlaethau’r dyfodol elwa arni.”

Er mwyn dod yn wlad Sero Net erbyn 2050, mae arbenigwyr wedi cynghori bod yn rhaid i Gymru blannu 86 miliwn o goed dros y degawd nesaf.

Meddai Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw: “Mae coed bob amser wedi cynnig datrysiadau syml a chost-effeithiol i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu, a thrwy fenter Fy Nghoeden, Ein Coedwig, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli pobl o bob cefndir a rhanbarth i gymryd rhan, ac o ganlyniad, teimlo wedi’u cysylltu â’r manteision niferus y gall coed eu cynnig.”