Amdanom

Mae Eco Hwb Aber wedi’i ymgorffori fel menter gymdeithasol a thrwy ein haelodaeth mae gennym y modd i wneud yr hyn sydd ei angen yn lleol a bod yn hunan-gyllidol. Bydd gweithredu uniongyrchol lleol dilys o’r fath yn cael sgil-effaith ac yn ein harwain tuag at y pwynt tyngedfennol sydd ei angen er mwyn cyflawni ffordd o fyw carbon isel, cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a phlaned iach i fyw arni.

Ymaelodwch aac ymunwch â ni ar gyfer gweithdai, cyfnewid dillad, digwyddiadau, eco-wybodaeth leol, coed, arddangosfeydd, defnydd o e-feiciau a chamera delweddu thermol a mwy.

Cyd-sylfaenwyr Eco Hwb Aber yw Kate Rolt a Cath Peasley, trigolion lleol o Aberystwyth, sydd a dros 30 mlynedd o brofiad mewn Cynaliadwyedd, arwain sefydliadau ymarferol di-elw, lleihau carbon a chynyddu natur.

Yn y 90au a’r 00au roedden ni’n byw ein bywydau mewn cymunedau arloesol; yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o heriau amgylcheddol a chymdeithasol. Roedd y ddwy ohonom yn aelodau sefydlu cymuned dai cymunedol, lleol Plas Einion, yn gweithio yng Nghanolfan Technoleg Amgen sy’n eiddo i’r gweithwyr ac yn darparu addysg ac adloniant cynaliadwy fel aelodau o’r grwp cydweithredol ‘Technotribe’ (hynny yw mewn technoleg adnewyddadwy nid cerddoriaeth!). Roedd yr holl grwpiau cymunedol yma ar flaen y gad o ran sut i weithio’n wahanol, gan flaenoriaethu’r hyn sydd bellach yn weithgareddau prif ffrwd, fel ailgylchu, bwyta llai o gig, cael paneli solar, tyfu organig ond oedd, ar yr adeg honno, yn cael eu gweld yn weithgareddau ymylol.

Bu Kate Rolt, perchennog busnes, entrepreneur ac arloeswr y mudiad organig, yn rhedeg ei bwyty organig ei hun a busnes bocs llysiau, gan reoli timau o wirfoddolwyr a thyfwyr. Cyn hynny bu’n gweithio yn IBERS fel technegydd ymchwil yn yr adran Biomas. Mae hi’n defnyddio’r profiadau hyn i gefnogi tyfwyr yng Nghymru drwy fod yn aelod hirdymor o bwyllgor Cymdeithas Genedlaethol Rhandiroedd Cymru.

“Credwn ein bod ni i gyd yn rhan o’r newid. Gan gydweithio trwy Eco Hwb Aber, gallwn ddysgu am gamau sy’n lleihau carbon, cynyddu bioamrywiaeth ac sy’n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol.” Kate.

Arferai Cath Peasley, aelod profiadol o’r bwrdd, arwain y cwmni ynni adnewyddadwy lleol llwyddiannus Dulas Cyf, un o arloeswyr pŵer gwynt a solar yn y DU. Bu Hefyd yn gweithio ar draws y byd yn darparu oergelloedd solar ar gyfer brechiadau ledled y byd i UNICEF er mwyn gyrraedd y plant mwyaf anghysbell.

“Mae’r Eco Hwb yma er mwyn cyrraedd pawb yn Aberystwyth, rydym yn darparu lle cyfeillgar a chroesawgar, dewch i ddweud helo.” Cath.

Mae Kate a Cath hefyd yn cydweithio’n greadigol. Cath yw Lady Pea – DJ ar gyfer digwyddiadau byw a radio lleol ac mae Kate yn artist creadigol ymdrwythol, llawrydd gyda darnau fel “The Tipping Point” a’r eiconig “Penny Farthing”. Fel ‘Ymyl y Môr’ rydym yn cyflwyno digwyddiadau cerddoriaeth bersonol unigryw i bob oed a sioe radio byw rheolaidd thematig, wedi’i harchwilio gan Kate a’i chyflwyno gan Lady Pea ar Radio Bronglais a Radio Aber. Mae’r themâu yn cynnwys rhannau o’r corff “The Organ Recital” a phopeth o ofalwyr i goed ac anifeiliaid anwes i etholiadau’r UDA.