Economi Gylchol

Atgyweirio, ailddefnyddio ac ailgylchu. Mae nifer o gamau y gallwn eu cymryd sy’n lleihau ein gwastraff cymaint â phosib. Mae Eco Hwb Aber yn cyflwyno ffyrdd y gallwn rannu, llogi, ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion presennol cyhyd â phosibl. Mae hyn yn golygu bod llawer ffordd i osgoi prynu o’r newydd.

Cyfnewid Dillad

Rydym yn falch o gynnal cyfnewidiadau dillad tymhorol chwarterol o amgylch y gyhydnos a’r heuldro – da i’ch cwpwrdd dillad a da i’r blaned. Pob oedran, croeso i bawb – dewch â’ch dillad ac ategolion glan ac mewn cyflwr da atom ar y diwrnod cynt (hyd at 10 eitem y person), cyfnewidiwch am dalebau ac yna dod nôl y diwrnod canlynol i gyfnewid eich talebau am eich newydd wedd. Gadewch i ni gyfnewid – gwisgwch yr hyn rydych chi’n ei garu a chyfnewid yr hyn nad ydych.

Os hoffech gymryd rhan yn yr economi gylchol neu wish to donate of hoffech roi neu wirfoddoli cysylltwch â ni. Gadewch i ni i gyd ymestyn cylch bywyd cynnyrch.