Desgiau Poeth a Lleoliad

Desgiau Poeth a Llogi Lleoliad Pwrpasol

Rydyn ni’n ofod cyfeillgar naturiol gyda phren, planhigion, lloriau glaswellt y môr naturiol a golygfa o’r môr.

Gofod Desgiau Poeth ar gael dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher ar gyfer archebion rheolaidd neu untro– archebwch ddesg unigol neu’r holl le pwrpasol ar gyfer cyfarfodydd.

Arbedwch ar eich biliau, dewch allan o’r tŷ a mwynhau man gwaith proffesiynol gyda golygfa o’r môr! Rydyn ni wedi’n lleoli’n ganolog gyda wi-fi cyflym wedi’i gynnwys. Mae loceri ar gael a gallwch hefyd ein defnyddio fel eich cyfeiriad post busnes.

Sesiynau desg boeth am ddim ar gael i’n haelodau.

Llogi Lleoliad

Mae modd llogi holl ofod Eco Hwb Aber ar gyfer ‘pop-ups’, digwyddiadau, ymgyrchoedd a sesiynau galw heibio.

Gellir archebu cyfnodau o awr, diwrnod llawn, neu noson neu gellir trefnu pecyn pwrpasol ar eich cyfer. Mae’r gofod ffenestr yn ddelfrydol ar gyfer posteri a baneri ac oddi mewn ceir man cysurus ar gyfer sgyrsiau, cyfarfodydd grŵp neu sgwrs 1i1.

Mae pecynnau cerddoriaeth, digidol ac arlwyo hefyd ar gael.

“Eco Hub Aber are always helpful, supportive, and understanding. It is clear that they have a passion for improving Aberystwyth for the community.”