EcoArcadia

Mae EcoArcadia yn fudiad aml-gerbyd o wahanol ffurfiau a yrrir gan ryddhad o fynegiant artistig mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd i wella, i gryfhau ein gwytnwch i anhrefn chwalfa hinsoddol, i adfer cydbwysedd yn ein byd naturiol.

Mae croeso i bawb gymryd rhan: celf, cerddoriaeth, cân, dawns, trafodaeth fywiog, drama, y gair ysgrifenedig a barddoniaeth…..beth bynnag sydd ei angen i drosglwyddo’r neges am yr argyfwng hinsawdd!

Lefelau’r môr yn codi ar arfordir gorllewin Cymru

Lle mae bardd a storïwr yn ymuno â Daearegwr ac athro Hinsawdd wrth iddynt gyfuno mythau’r gorffennol gyda’n argyfwng hinsawdd presennol. Gyda’r cyflwynydd radio lleol Catherine Taylor … a John Mason – daearegydd, mwynolegydd ac awdur a hyfforddwyd yn lleol, yn cyfleu’r wyddoniaeth y tu ôl i newid hinsawdd. Yn eu dangos gan ddefnyddio’r dystiolaeth ddaearegol ym Mae Ceredigion ynghyd â storïwr lleol o Gymru wrth i ni gyfuno mythau’r gorffennol â’n hargyfwng hinsawdd bresennol nawr.

Cododd ‘The Making of Ynyslas’ o un sefyllfa o’r fath yn 2019. Yn ystod yr haf cynt, bu John Mason, yr awdur, yn gweithio yno fel rheolwr tymhorol.

Nododd ddau beth allweddol:

  • ychydig iawn oedd ar y safle i egluro sut daeth y lle i fodolaeth
  • roedd hi’n amlwg bod newid hinsawdd eithafol wedi chwarae rôl allweddol wrth ei ffurfio

Ar ôl diwedd y tymor a darllen eithaf cynhwysfawr o’r llenyddiaeth wyddonol a adolygir gan gymheiriaid, casglodd John y ffeithiau allweddol at ei gilydd ac roedd y naratif yn barod i’w hadrodd. Stori am dalp o dirwedd a foddwyd yn raddol wrth i lenni iâ mawr doddi yn dilyn uchafbwynt y rhewlifiant diwethaf. Digwyddodd y llifogydd yma gan fwyaf dros gyfnod o 14,000 o flynyddoedd ac roedd cyfanswm y cynnydd yn lefel y môr yn rhyw 120 metr, felly mae’r Goedwig Tanddwr enwog a’r mawndir, sydd tua 4,000-6,000 o flynyddoedd oed, yn cynrychioli ei weithred derfynol. Mae mawndiroedd hŷn eraill wedi’u canfod yn y môr wrth ddrilio i mewn i wely’r môr, rhai o dan lawer o fetrau o waddodion.

Dyna dystiolaeth i Fae Ceredigion ar un adeg fod yn wastadedd coediog ffrwythlon, ac mae gwyddoniaeth yn ymwneud â thystiolaeth i gyd. Mae’n ymddangos bod The Making of Ynyslas yn arf effeithiol ym mlwch offer cyfathrebu newid hinsawdd. Mae hynny oherwydd ei fod yn dangos pethau sydd wedi digwydd go iawn, y dystiolaeth galed iddyn nhw wedi cael ei weu i mewn i stori ddramatig. Yn wir, mae mor ddramatig â chwedl Cantre’r Gwaelod ei hun.

O ystyried bod y cynnydd yn lefel y môr ôl-rewlifol yn ffenomen fyd-eang, mae llawer o lefydd eraill y gellir dweud hanes tebyg amdanynt.

Celf Hinsawdd Bresennol

Tess Seymour – Time and Tide wait for None

Mae Tess Emily Seymour yn ffotograffydd dogfennol, dros y 3 blynedd ddiwethaf mae hi wedi canolbwyntio ar gynhyrchu prosiectau ar sail lensiau a phrosesau amgen sy’n canolbwyntio ar gymunedau yng Nghymru, er mwyn cyflawni dull personol sy’n adlewyrchu materion byd-eang cyfredol.

Daw’r teitl “Time and Tide wait for None” o’r dywediad gwreiddiol “Time and Tide Wait for No Man” a ymddangosodd gyntaf yn “The Clerk’s Tale” gan Geoffrey Chaucer.

Yn wreiddiol doedd gan y dywediad ddim i’w wneud â’r môr. Cyfeiriad at amser ydoedd, na all digwyddiadau neu bryderon dynol atal treigl amser na llanw a thrai.

Cyfeiriwyd at y gair llanw/tide yn wreiddiol fel amser, cyfnod neu dymor. Felly ystyr y dywediad yw na ddylid gwastraffu hamser a dylid bod yn barod am beth bynnag a ddaw.

I Tess mae’r idiom yn cynrychioli’r argyfwng hinsawdd bresennol, mae amser yn cael ei wastraffu, ac os nad ydyn ni’n gweithredu, bydd dim diwedd i’r llanw.

Celf Hinsawdd Flaenorol

Giles W Bennett – Gosodiad taflunio golau digidol

Not Waving!

Mae “Not waving” yn ddarn gosod taflunio newydd gan yr artist lleol Giles W Bennett, a grëwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn yn Eco Hwb Aber.

Mae Giles yn defnyddio ei brofiad o flynyddoedd lawer fel addysgwr ac actifydd amgylcheddol yn ogystal â defnyddio ei lygad niwroamrywiol unigryw i greu’r gosodiad diddorol hwn sy’n edrych ar lanw, amser, symudiad a phatrymau o fewn y gofod hwnnw rhwng y Môr a’r Tir (neu Y Prom fel ei hadnabyddir yma yn Aberystwyth). Fel mae’r llanw gael ei yrru gan y lleuad, mae’r darn yn defnyddio ei olau ariannog i greu cwlwm rhwng y gynulleidfa a harddwch, rhythmau, a phŵer y môr.

I ni sy’n byw ger y môr rydym ond rhy ymwybodol o’r pŵer hwnnw a’i alluoedd dinistriol.

Rydym hefyd yn ymwybodol bod y digwyddiadau hyn yn taro ein harfordir yn amlach a ffyrnicach. Mae “Not Waving!” yn cymysgu harddwch anhygoel ac awch byd natur gyda rhagluniaeth amlwg.

Wyddoch chi bod gennym artist preswyl hefyd?

Megan Elinor Jones

Mae Megan Elinor Jones, ddarlunydd/ artist stryd lleol wedi cynhyrchu gwaith anhygoel ar gyfer Eco Hwb Aber. Megan oedd y dewis delfrydol i ni gydweithio â gan bod ei gwaith yn canolbwyntio ar weithredu ar yr hinsawdd, grymuso merched, y byd naturiol a diwylliant Cymru. Materion sy’n gwbl cyd-fynd â’n hethos. Mae hi wrth ei bodd yn archwilio pob math o gelf gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau. Yn aml-fedrus gyda’i iPad, does dim tasg yn ormod i Megan. Yn ei steil bywiog unigryw mae hi wedi cynhyrchu taflenni a phosteri ar gyfer ein digwyddiadau a murlun ffenestr anhygoel ar gyfer cystadleuaeth ffenestr Dydd Gŵyl Dewi. Ar hyn o bryd mae hi’n ein helpu i ddatblygu gêm bwrdd gweithredu hinsawdd rydyn ni’n ei chreu i greu iaith o ddydd i ddydd i bawb ar gamau y gallwn ni gymryd yn lleol i helpu i gadw newid yn yr hinsawdd draw.

Dyma rai o’r darluniau y mae hi wedi’u creu i ni ac yn ystod amseroedd gwyliau roedd hi’n un o’n siopau ‘pop-up’ yn gwerthu ei phrintiau, tecstilau wedi’u huwchgylchu a’i gemwaith @meganelinorart