Mae ffordd newydd o fenthyca, rhannu ac arbed yn dod i Aberystwyth
Mae’n fore dydd Mawrth, ac rwy’n syllu ar arwydd siop metel tolciog. Fy mwriad yw ei
adfer, sy’n golygu ei stripio a’i ail-beintio. Dim ond unwaith y byddaf yn gwneud hyn
achos, yn rhyfedd ddigon, dydw i ddim yn trwsio hen arwyddion siop yn aml.
Byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallwn gael gafael ar wn gwres i gael gwared ar yr holl
hen baent du. Wrth gwrs, gallwn i brynu un. Ond dydw i ddim angen un yn fy mywyd
am byth. Byddai’n braf pe bai rhywle ar gael yn lleol lle y gallwn i fenthyg un yn lle?
Efallai gan gymydog hyd yn oed a allai roi cyngor i mi ar sut i’w ddefnyddio.
Cyn bo hir, bydd Aberystwyth yn gallu cynnig yr union beth hwnnw diolch i brosiect
newydd Hwb Eco Aber: llyfrgell fenthyca ar gyfer eitemau defnyddiol o’r enw Llyfrgell
o Bethau.
A beth yw Llyfrgell o Bethau?
Mae Llyfrgelloedd o Bethau wedi dod yn gynyddol boblogaidd yn y DU byth ers i
brosiect bach ddechrau yn 2014 yn Llyfrgell yn West Norwood. Fe’i hysbrydolwyd
gan brosiectau benthyca llyfrgelloedd eraill ledled Ewrop gan gynnwys y Leila
Project, ‘siop fenthyca’ ym Merlin a sefydlwyd yn 2012 a’r Llyfrgell Ddynol yn
Copenhagen, lle gallwch ‘fenthyca’ person a chlywed manylion personol am eu stori
bywyd.
Mae’r model wedi esblygu ers hynny i gynnwys benthyca popeth o offer DIY i
beiriannau gwnïo. Mae wedi tyfu’n fyd-eang, gyda dros 100 o Lyfrgelloedd o Bethau
yn y DU yn unig, fel y rhestrir ar y cyfeiriadur Llyfrgell o Bethau a grëwyd gan Ethical
Consumer. Mae’r map yn dangos mwy nag 20 yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yn
Llanidloes a Chaerfyrddin. Mae gan Gymru hyd yn oed ei sefydliad ei hun sy’n
gyfrifol am gefnogi llyfrgelloedd o bethau newydd o’r enw Benthyg Cymru sy’n cynnig
cyngor ac adnoddau.
Dewis Amgen Ymarferol a Chynaliadwy
Mae Llyfrgelloedd o Bethau yn cael eu hystyried yn ddewis amgen i brynu eitemau
drud mewn panig, sydd fel arfer wedi’u gwneud yn wael ac a fydd yn mynd i
safleoedd tirlenwi yn y pen draw. Yn lle hynny, mae pethau defnyddiol fel peiriannau
gwnïo, gasebos a driliau yn cael eu cadw mewn mannau lleol, yn cael eu catalogio
a’u cynnal gan wirfoddolwyr a staff. Yna gellir eu rhentu am brisiau fforddiadwy ar
gyfer pa bynnag dasg unigol sydd ar y gweill. Mae pob Llyfrgell o Bethau yn edrych
yn wahanol, ond maen nhw bob amser yn annog pobl leol i ailddefnyddio cyn prynu.
Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i’r union beth sydd ei angen arnoch chi yn eich
cymuned leol, sydd ar gael am ffi fechan.
Cymdogion yn Helpu Cymdogion
Gall Llyfrgell o Bethau hefyd fod yn fan lle mae cymdogion yn helpu cymdogion, yn
benthyca sgiliau, gwybodaeth ac anogaeth yn ogystal â darnau dril ac offer crefft.
Dydd Sadwrn diwethaf yng Nghaffi Atgyweirio Aberystwyth, dangosodd y
gwirfoddolwyr rheolaidd frwdfrydedd am y prosiect newydd.
Cymerodd y gwirfoddolwyr Dave ac Iestyn seibiant o’r atgyweirio, fel trwsio dol
Freddie Mercury a oedd wedi’i gyrydu’n wael, i drafod y syniad.
Dywedodd Dave: ‘Pan nad oes angen rhywbeth arnoch yn aml, rydych chi’n teimlo
rheidrwydd i’w brynu ar gyfer yr un dasg honno. Byddai llyfrgell o bethau yn golygu y
gallem ei fenthyg neu ei logi yn lle hynny.’
Cytunodd Iestyn: ‘Yn union. Efallai mai dim ond am ddwy neu dair awr y flwyddyn y
bydd angen rhywbeth ar bobl. Maen nhw’n ei brynu’n newydd, yn rhoi’r gorau i’w
ddefnyddio ac yna mae’n hel llwch a rhwd.’
Gall eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio greu annibendod diangen mewn cartrefi
sydd eisoes yn llawn dop. Dywedodd gwneuthurwr lleol, Maeve Moran: ‘Rwy’n byw
mewn lle bach ac felly does gen i ddim pethau ychwanegol fel driliau. Mae’n rhaid i
mi ddefnyddio rhywbeth fel ‘na unwaith y flwyddyn, felly pam prynu un? Byddai’n
ddefnyddiol cael benthyg un pan fydd ei angen arnaf.’
Mae llawer o’r rhannu syniadau hyn eisoes yn digwydd yn anffurfiol rhwng ffrindiau a
chymdogion. Bu dau wirfoddolwr sy’n defnyddio offer electronig arbenigol yn tynnu
coes ei gilydd am hyn. ‘Fel arfer, dw i jyst yn gofyn iddo,’ meddai un gwirfoddolwr,
gan bwyntio at ei ffrind.
‘Byddai’n dda ei ffurfioli, fel y Caffi Atgyweirio, a chael lle i fynd iddo gyntaf lle rydych
chi’n gwybod bod rhywbeth yn debygol o fod ar gael,’ ychwanegodd.
Edrychodd yn ôl ar ei ffrind, ‘am yr eitemau mwy arbenigol efallai y byddaf yn dal i
ofyn iti!’
O Folltau i Dorrwr Gwrychoedd
Mae’n fwy na’r offer pŵer mawr hefyd. Ychwanegodd gwirfoddolwr arall: ‘Weithiau
dim ond ychydig o sgriwiau neu folltau sydd eu hangen arnoch ond rhaid prynu bag
cyfan. Byddai’n wych gwybod bod rhywle i gyfrannu’r gweddill ac edrych yn y llyfrgell
yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth newydd.’
Gofynnodd Hwb Eco Aber i bobl beth yr hoffent ei fenthyg neu ei gyfrannu.
Dangosodd yr ymatebion lawer o geisiadau am dorwyr gwrychoedd yn ogystal â
phleidleisiau ar gyfer goleuadau Nadolig, addurniadau digwyddiadau, offer sain ac
offer garddio. Dangosodd hyn ddiddordeb lleol amlwg mewn garddio a phartïon. Y
newyddion da yw y gellir benthyg gasebos, byrddau ac offer casglu sbwriel gan
Gyngor Tref Aberystwyth yn barod.
Dywedodd Kate Roth o Hwb Eco Aber: ‘Rwy’n credu mai llyfrgell o bethau yw’r union
beth sydd ei angen ar y dref hon. Mae’n atal pobl rhag gorfod gwario arian yn
ddiangen ac yn arbed ar le ac annibendod i bobl sy’n byw mewn llety a rennir neu
fflatiau un ystafell wely. Yn hytrach na phrynu eitem i’w defnyddio unwaith y
flwyddyn, bydd ganddynt y llyfrgell fawr hyfryd hon o bethau ar gael iddynt pryd
bynnag y bydd eu hangen arnynt.’
Cymrwch Ran
Bydd Llyfrgell o Bethau Aberystwyth yn agor yn fuan. I rannu syniadau, rhoi help
llaw, cyfrannu eitem, neu gofrestru, cliciwch yma.
Ariennir y Caffi Atgyweirio a’r ymchwil i Lyfrgell o Bethau Aberystwyth gan Gronfa
Gymunedol y Loteri Genedlaethol.